ATODLEN 8SEILIAU RHEOLI YSTAD

RHAN 1Y SEILIAU

SEILIAU LLETY ARBENNIG

I13Sail C (elusennau)

1

Mae’r landlord yn elusen a byddai’r ffaith bod deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd yn gwrthdaro ag amcanion yr elusen.

2

Ond nid yw’r sail hon ar gael i’r landlord (“L”) oni bai, ar yr adeg y gwnaed y contract ac ar bob adeg wedi hynny, bod y person yn safle’r landlord (boed L neu berson arall) yn elusen.

3

Yn y paragraff hwn mae i “elusen” yr un ystyr â “charity” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno).