Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Sail B (cynlluniau ailddatblygu)
This section has no associated Explanatory Notes

2(1)Mae’r sail hon yn codi os yw’r annedd yn bodloni’r amod cyntaf neu’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw bod yr annedd mewn ardal sy’n ddarostyngedig i gynllun ailddatblygu a gymeradwywyd yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen hon, a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r annedd yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl adennill meddiant.

(3)Yr ail amod yw bod rhan o’r annedd mewn ardal o’r fath a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r rhan honno yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl adennill meddiant, a’i bod yn rhesymol i feddiant o’r annedd fod yn ofynnol ganddo at y diben hwnnw.