xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 01/12/2022

(a gyflwynir gan adrannau 160 a 162)

ATODLEN 8LL+CSEILIAU RHEOLI YSTAD

RHAN 1LL+CY SEILIAU

SEILIAU AILDDATBLYGULL+C

Sail A (gwaith adeiladu)LL+C

1Mae’r landlord yn bwriadu, o fewn cyfnod rhesymol o adennill meddiant o’r annedd—

(a)dymchwel neu ailadeiladu’r adeilad neu ran o’r adeilad sy’n cynnwys yr annedd, neu

(b)gwneud gwaith ar yr adeilad hwnnw neu ar dir sy’n cael ei drin fel rhan o’r annedd,

ac ni all wneud hynny’n rhesymol heb adennill meddiant o’r annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Sail B (cynlluniau ailddatblygu)LL+C

2(1)Mae’r sail hon yn codi os yw’r annedd yn bodloni’r amod cyntaf neu’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw bod yr annedd mewn ardal sy’n ddarostyngedig i gynllun ailddatblygu a gymeradwywyd yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen hon, a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r annedd yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl adennill meddiant.

(3)Yr ail amod yw bod rhan o’r annedd mewn ardal o’r fath a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r rhan honno yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl adennill meddiant, a’i bod yn rhesymol i feddiant o’r annedd fod yn ofynnol ganddo at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 8 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

SEILIAU LLETY ARBENNIGLL+C

Sail C (elusennau)LL+C

3(1)Mae’r landlord yn elusen a byddai’r ffaith bod deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd yn gwrthdaro ag amcanion yr elusen.

(2)Ond nid yw’r sail hon ar gael i’r landlord (“L”) oni bai, ar yr adeg y gwnaed y contract ac ar bob adeg wedi hynny, bod y person yn safle’r landlord (boed L neu berson arall) yn elusen.

(3)Yn y paragraff hwn mae i “elusen” yr un ystyr â “charity” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 8 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Sail D (annedd sy’n addas i bobl anabl)LL+C

4Mae’r annedd yn cynnwys nodweddion sy’n sylweddol wahanol i’r rheini a geir mewn anheddau cyffredin ac sydd wedi eu cynllunio i’w gwneud yn addas i’w meddiannu gan berson sydd ag anableddau corfforol ac sydd angen llety o fath a ddarperir gan yr annedd ac—

(a)nid oes mwyach berson o’r fath yn byw yn yr annedd, a

(b)mae ei hangen ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson o’r fath (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 8 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Sail E (cymdeithasau tai ac ymddiriedolaethau tai: pobl y mae’n anodd eu cartrefu)LL+C

5(1)Mae’r landlord yn gymdeithas dai neu’n ymddiriedolaeth dai sy’n darparu anheddau sydd ond ar gyfer eu meddiannu (boed ar eu pen eu hunain neu gydag eraill) gan bobl y mae’n anodd eu cartrefu, ac—

(a)naill ai nid oes person o’r fath yn byw yn yr annedd mwyach neu mae awdurdod tai lleol wedi cynnig yr hawl i ddeiliad y contract feddiannu annedd arall o dan gontract diogel, a

(b)mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson o’r fath (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).

(2)Mae person yn anodd ei gartrefu os yw amgylchiadau’r person hwnnw (ac eithrio ei amgylchiadau ariannol) yn ei gwneud yn arbennig o anodd iddo fodloni ei angen am gartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 8 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Sail F (grwpiau o anheddau ar gyfer pobl sydd ag anghenion arbennig)LL+C

6Mae’r annedd yn ffurfio rhan o grŵp o anheddau y mae’n arfer gan y landlord eu cynnig i’w meddiannu gan bersonau sydd ag anghenion arbennig ac—

(a)mae gwasanaeth cymdeithasol neu gyfleuster arbennig yn cael ei ddarparu yn agos at y grŵp o anheddau er mwyn cynorthwyo personau sydd â’r anghenion arbennig hynny,

(b)nid oes person sydd â’r anghenion arbennig hynny yn byw yn yr annedd mwyach, ac

(c)mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson sydd â’r anghenion arbennig hynny (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 8 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

SEILIAU TANFEDDIANNAETHLL+C

Sail G (olynwyr wrth gefn)LL+C

7Mae deiliad y contract wedi olynu i’r contract meddiannaeth o dan adran 73 fel olynydd wrth gefn (gweler adrannau 76 a 77), ac mae’r llety yn yr annedd yn fwy helaeth na’r hyn sydd ei angen yn rhesymol ar ddeiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 8 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Sail H (cyd-ddeiliaid contract)LL+C

8(1)Mae’r sail hon yn codi os bodlonir yr amod cyntaf a’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw bod hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract o dan y contract wedi eu terfynu yn unol ag—

(a)adran 111, 130 neu 138 (tynnu’n ôl), neu

(b)adran 225, 227 neu 230 (gwahardd).

(3)Yr ail amod yw—

(a)bod y llety yn yr annedd yn fwy helaeth na’r hyn sydd ei angen yn rhesymol ar ddeiliad (neu ddeiliaid) y contract sy’n weddill, neu

(b)pan fo’r landlord yn landlord cymunedol, nad yw deiliad (neu ddeiliaid) y contract sy’n weddill yn bodloni meini prawf y landlord ar gyfer dyrannu llety tai.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 8 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

RHESYMAU RHEOLI YSTAD ERAILLLL+C

Sail I (rhesymau rheoli ystad eraill)LL+C

9(1)Mae’r sail hon yn codi pan fo’n ddymunol i’r landlord adennill meddiant o’r annedd am ryw reswm rheoli ystad sylweddol arall.

(2)Caiff rheswm rheoli ystad, yn benodol, ymwneud ag—

(a)yr annedd i gyd neu ran ohoni, neu

(b)unrhyw fangre arall sydd gan y landlord y mae’r annedd yn gysylltiedig â hi, boed oherwydd agosrwydd neu oherwydd y dibenion y’i defnyddir ar eu cyfer, neu mewn unrhyw ffordd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 8 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

DARPARIAETH SYLFAENOLLL+C

Darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaethLL+C

10Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 8 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

RHAN 2LL+CCYMERADWYO CYNLLUNIAU AILDDATBLYGU AT DDIBENION SAIL B

Cymeradwyo cynllun a chymeradwyo amrywio cynllunLL+C

11(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais gan landlord, gymeradwyo at ddibenion Sail B o’r seiliau rheoli ystad gynllun ar gyfer gwaredu ac ailddatblygu ardal o dir sy’n ffurfio neu’n cynnwys y cyfan neu ran o annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth.

(2)At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “gwaredu” yw gwaredu unrhyw fuddiant yn y tir (gan gynnwys rhoi opsiwn), a

(b)ystyr “ailddatblygu” yw dymchwel neu ailadeiladu adeiladau neu wneud gwaith arall ar adeiladau neu dir,

ac nid oes wahaniaeth a yw’r gwaredu i ragflaenu neu i ddilyn y gwaith ailddatblygu.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais y landlord, gymeradwyo amrywio cynllun a gymeradwywyd ganddynt yn flaenorol a chânt, ymysg pethau eraill, gymeradwyo amrywiad sy’n ychwanegu tir at yr ardal sy’n ddarostyngedig i’r cynllun.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 8 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Hysbysiad i ddeiliaid contract a effeithirLL+C

12(1)Os yw landlord yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynllun neu gymeradwyo amrywiad i gynllun a gymeradwywyd, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan unrhyw gontract meddiannaeth a effeithir.

(2)Effeithir ar gontract meddiannaeth os yw’r cynnig yn effeithio ar yr annedd sy’n ddarostyngedig iddo.

(3)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)prif nodweddion y cynllun arfaethedig, neu brif nodweddion yr amrywiadau arfaethedig i’r cynllun a gymeradwywyd,

(b)bod y landlord yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun neu’r amrywiad, ac

(c)mai effaith cymeradwyaeth o’r fath, oherwydd adran 160 a Sail B o’r seiliau rheoli ystad, fydd galluogi’r landlord i wneud hawliad meddiant mewn perthynas â’r annedd.

(4)Rhaid i’r hysbysiad hefyd hysbysu deiliad y contract—

(a)y caiff wneud sylwadau i’r landlord ynglŷn â’r cynnig, a

(b)bod rhaid gwneud y sylwadau cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a bennir gan y landlord yn yr hysbysiad).

(5)Ni chaiff y landlord wneud cais i Weinidogion Cymru hyd nes bod y landlord wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(6)Mae is-baragraff (7) yn gymwys yn achos landlord o dan gontract meddiannaeth y byddai (oni bai am y paragraff hwn) yn ofynnol o dan adran 234 iddo ymgynghori â deiliad y contract ynglŷn â chynllun ailddatblygu (neu amrywio cynllun ailddatblygu).

(7)Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, bydd y paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag ymgynghoriad y landlord â deiliad y contract yn lle adran 234.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 8 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Penderfynu ynghylch cymeradwyo neu amrywioLL+C

13(1)Wrth ystyried pa un ai gymeradwyo cynllun neu amrywiad ai peidio, rhaid i Weinidogion Cymru, ymysg pethau eraill, ystyried—

(a)effaith y cynllun ar helaethder a chymeriad llety tai yn y gymdogaeth,

(b)y cyfnod amser a gynigir yn y cynllun fel y cyfnod y bydd y gwarediad a’r ailddatblygiad arfaethedig yn digwydd, ac

(c)y graddau y mae’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwerthu tai a ddarperir o dan y cynllun i bersonau perthnasol, neu i dai gael eu meddiannu gan bersonau o’r fath o dan gontractau meddiannaeth.

(2)Ystyr “personau perthnasol” yw deiliaid contract presennol o dan gontract meddiannaeth gyda’r landlord ac, os yw’r landlord yn landlord cymunedol, personau a enwebir gan y landlord.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ystyried—

(a)unrhyw sylwadau a wneir iddynt, a

(b)i’r graddau y cânt eu dwyn i sylw Gweinidogion Cymru, unrhyw sylwadau a wneir i’r landlord.

(4)Rhaid i’r landlord roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r sylwadau a wneir i’r landlord, ac ynglŷn â materion perthnasol eraill, y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 8 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Cynllun yn effeithio ar ran o annedd etc.LL+C

14Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun neu amrywiad fel ei fod yn cynnwys, yn yr ardal sy’n ddarostyngedig i’r cynllun—

(a)rhan yn unig o unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, neu

(b)unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth nad yw’r gwaith sy’n rhan o’r ailddatblygu’n effeithio arno ond y bwriedir ei waredu ynghyd â thir arall a effeithir felly,

oni bai eu bod yn fodlon bod modd cyfiawnhau ei chynnwys dan yr amgylchiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 8 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Amodau yn ymwneud â chymeradwyoLL+C

15(1)Caniateir cymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir mynegi bod y gymeradwyaeth i ddod i ben ar ôl cyfnod penodedig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan y landlord neu fel arall, amrywio cymeradwyaeth er mwyn—

(a)ychwanegu, dileu neu amrywio amodau y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt, neu

(b)ymestyn neu gyfyngu’r cyfnod y daw’r gymeradwyaeth i ben ar ei ddiwedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 8 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Darpariaeth arbennig ar gyfer landlordiaid cymunedolLL+C

16At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon mae landlord cymunedol i’w drin fel landlord mewn perthynas ag annedd os oes ganddo fuddiant o unrhyw ddisgrifiad yn yr annedd honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 8 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)