xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 7CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG

Telerau contract safonol ymddygiad gwaharddedig

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo contract safonol cyfnodol yn cael ei greu drwy orchymyn o dan adran 116.

(2)Os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol, telerau’r contract yw’r telerau y cytunwyd arnynt.

(3)Mae is-baragraff (2) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon ynghylch ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol.

(4)Os nad yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol—

(a)mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract heb eu haddasu,

(b)mae unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny yn peidio â chael effaith, ac

(c)fel arall, mae telerau’r contract safonol cyfnodol yr un fath â thelerau’r contract diogel.

(5)Pa un a yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol ai peidio, mae’n un o delerau’r contract—

(a)bod unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n daladwy pan ddaw’r contract diogel i ben yn dod yn daladwy o dan y contract safonol cyfnodol, a

(b)bod unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu a ordalwyd ar ddiwedd y contract diogel yn cael ei roi tuag at atebolrwydd deiliad y contract i dalu rhent o dan y contract safonol cyfnodol.

(6)Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys.

(7)Mae adran 151(3) (gofyniad i hysbysu deiliad y contract am yr hawl i wneud cais am adolygiad gan y landlord o dan adran 202) yn darparu bod yr adran honno yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol ymddygiad gwaharddedig.

(8)Mae contractau safonol ymddygiad gwaharddedig o fewn Atodlen 9; o ganlyniad nid yw adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol ymddygiad gwaharddedig.