ATODLEN 7CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG
Y weithdrefn pan wneir cais am orchymyn o dan adran 116
1
(1)
Ni chaiff y llys wrando ar gais landlord am orchymyn o dan adran 116 oni bai—
(a)
bod y landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o fwriad y landlord i wneud cais am orchymyn o’r fath, neu
(b)
bod y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofyniad i roi hysbysiad.
(2)
Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1) roi manylion yr ymddygiad y ceisir y gorchymyn mewn perthynas ag ef a datgan na chaniateir dwyn achos—
(a)
cyn y diwrnod a bennir yn yr hysbysiad, na
(b)
ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(3)
Caniateir pennu, at ddibenion is-baragraff (2)(a), y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(4)
Caiff y landlord, yn yr un achos, wneud cais i’r llys am orchymyn o dan adran 116 a gwneud hawliad meddiant.
Telerau contract safonol ymddygiad gwaharddedig
2
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo contract safonol cyfnodol yn cael ei greu drwy orchymyn o dan adran 116.
(2)
Os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol, telerau’r contract yw’r telerau y cytunwyd arnynt.
(3)
Mae is-baragraff (2) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon ynghylch ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol.
(4)
Os nad yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol—
(a)
mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract heb eu haddasu,
(b)
mae unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny yn peidio â chael effaith, ac
(c)
fel arall, mae telerau’r contract safonol cyfnodol yr un fath â thelerau’r contract diogel.
(5)
Pa un a yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol ai peidio, mae’n un o delerau’r contract—
(a)
bod unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n daladwy pan ddaw’r contract diogel i ben yn dod yn daladwy o dan y contract safonol cyfnodol, a
(b)
bod unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu a ordalwyd ar ddiwedd y contract diogel yn cael ei roi tuag at atebolrwydd deiliad y contract i dalu rhent o dan y contract safonol cyfnodol.
(6)
Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys.
(7)
Mae adran 151(3) (gofyniad i hysbysu deiliad y contract am yr hawl i wneud cais am adolygiad gan y landlord o dan adran 202) yn darparu bod yr adran honno yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
(8)
Mae contractau safonol ymddygiad gwaharddedig o fewn Atodlen 9; o ganlyniad nid yw adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord F1tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Y cyfnod prawf
3
(1)
Y cyfnod prawf, mewn perthynas â chontract meddiannaeth sy’n gontract safonol cyfnodol oherwydd gorchymyn o dan adran 116—
(a)
yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract (gweler adran 116(2)(b)), neu
(b)
os oes estyniad o dan baragraff 4, yw’r cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.
(2)
Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd y cyfnod prawf yn dod i ben cyn yr adeg y byddai’n dod i ben o dan is-baragraff (1), daw’r cyfnod i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(3)
Os yw’r llys, o dan baragraff 7, yn gorchymyn y bydd y cyfnod prawf yn dod i ben cyn yr adeg y byddai’n dod i ben o dan is-baragraff (1), daw’r cyfnod i ben ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
(4)
Os yw is-baragraffau (2) a (3) ill dau yn gymwys, daw’r cyfnod i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, pa un bynnag sydd gynharaf.
(5)
Mae is-baragraff (6) yn gymwys yn lle is-baragraffau (1) i (4) os, ar ddiwedd yr hyn fyddai’r cyfnod prawf o dan yr is-baragraffau hynny—
(a)
oes hawliad meddiant a wnaed gan y landlord mewn perthynas â’r annedd heb ei gwblhau, neu
(b)
yw’r landlord wedi rhoi hysbysiad adennill meddiant neu hysbysiad o dan adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract) i ddeiliad y contract, ac nad yw’r cyfnod y caiff y landlord wneud hawliad meddiant cyn iddo ddod i ben wedi dod i ben.
(6)
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, y cyfnod prawf yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract ac sy’n dod i ben—
(a)
pan geir digwyddiad perthnasol, neu
(b)
os na cheir digwyddiad perthnasol, yn union ar ôl i’r contract ddod i ben.
(7)
Mewn achos sydd o fewn is-baragraff (5)(a) y digwyddiad perthnasol yw hawliad meddiant yn cael ei ddyfarnu o blaid deiliad y contract.
(8)
Mewn achos sydd o fewn is-baragraff (5)(b) mae pob un o’r canlynol yn ddigwyddiad perthnasol—
(a)
tynnu’r hysbysiad yn ôl;
(b)
y cyfnod yn dod i ben heb fod hawliad meddiant wedi ei wneud;
(c)
hawliad meddiant a wnaed gan ddibynnu ar yr hysbysiad yn cael ei ddyfarnu o blaid deiliad y contract.
(9)
Os daw landlord preifat heblaw elusen gofrestredig yn landlord o dan y contract cyn yr adeg y byddai’r cyfnod prawf yn dod i ben oni bai am yr is-baragraff hwn, daw’r cyfnod prawf i ben.
Ymestyn y cyfnod prawf
4
(1)
Caniateir i’r landlord ymestyn y cyfnod prawf i’r cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract drwy roi hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract.
(2)
Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract o leiaf wyth wythnos cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod prawf yn dod i ben o dan baragraff 3(1)(a).
(3)
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad ddatgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod prawf, a nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(4)
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu deiliad y contract bod ganddo hawl i ofyn am adolygiad o dan baragraff 5 o benderfyniad y landlord i ymestyn y cyfnod prawf, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
(5)
Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod prawf, caiff y landlord ystyried—
(a)
ymddygiad deiliad y contract (neu, os oes cyd-ddeiliaid contract, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a
(b)
ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.
(6)
Caiff landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (5)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.
(7)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-baragraff (2) drwy reoliadau at ddiben newid pryd y mae’n rhaid rhoi hysbysiad o estyniad i ddeiliad contractF2....
Adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf
5
(1)
Os yw landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 4, caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad i roi’r hysbysiad.
(2)
Rhaid gwneud y cais i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract.
(3)
Os yw deiliad y contract yn gofyn am adolygiad yn unol ag is-baragraff (2), rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.
(4)
Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—
(a)
cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu
(b)
gwrthdroi’r penderfyniad.
(5)
Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod prawf yn dod i ben o dan baragraff 3(1)(a).
(6)
Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad—
(a)
nodi’r rhesymau dros y cadarnhad, a
(b)
hysbysu deiliad y contract bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 6, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
(7)
Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan y paragraff hwn.
(8)
Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (7), ymysg pethau eraill—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a
(b)
dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.
Adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf
6
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw landlord, yn dilyn cais am adolygiad a wneir yn unol â pharagraff 5(2)—
(a)
yn rhoi hysbysiad o dan baragraff 5(5) yn hysbysu deiliad y contract bod y landlord wedi penderfynu cadarnhau penderfyniad i roi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 4, neu
(b)
yn methu â rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff 5(5).
(2)
Caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o’r penderfyniad i roi’r hysbysiad o estyniad.
(3)
Rhaid gwneud y cais—
(a)
cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan baragraff 5(5), neu
(b)
os na roddwyd hysbysiad yn unol â pharagraff 5(5), cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad o dan yr is-baragraff hwnnw.
(4)
Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-baragraff (3), ond dim ond os yw’n fodlon—
(a)
os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw deiliad y contract yn gallu gwneud y cais mewn pryd, neu
(b)
os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod deiliad y contract wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.
(5)
Caiff y llys sirol gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad o estyniad.
(6)
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
(7)
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad—
(a)
nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o estyniad, a
(b)
caiff y llys sirol wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
(8)
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad a bod y landlord yn rhoi hysbysiad pellach o estyniad i ddeiliad y contract o dan baragraff 4 cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad—
(a)
mae’r hysbysiad yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi yn unol â pharagraff 4(2) (ac eithrio at ddibenion paragraff 5(2)), a
(b)
mae paragraff 5(5) i’w ddarllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r landlord hysbysu deiliad y contract am ganlyniad adolygiad o dan y paragraff hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gofynnodd deiliad y contract am yr adolygiad.
(9)
Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad.
Cais i’r llys i derfynu’r cyfnod prawf
7
(1)
Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth sy’n gontract safonol cyfnodol oherwydd gorchymyn o dan adran 116 wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n dod â’r cyfnod prawf i ben cyn yr adeg y byddai’n dod i ben o dan baragraff 3(1).
(2)
Caniateir gwneud y cais ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract (gweler adran 116(2)(b)).
(3)
Caiff y llys ddod â’r cyfnod prawf i ben, ond dim ond os yw’n fodlon—
(a)
nad oes angen mwyach i ddeiliad y contract feddiannu o dan gontract safonol cyfnodol, neu
(b)
nad yw’r landlord wedi sicrhau bod rhaglen briodol o gymorth cymdeithasol ar gael i ddeiliad y contract a’i bod yn annhebygol y bydd cymorth o’r fath ar gael.
Telerau contract diogel a oedd yn gontract safonol ymddygiad gwaharddedig
8
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo contract safonol ymddygiad gwaharddedig yn dod i ben ac yn cael ei ddisodli gan gontract diogel am fod y cyfnod prawf wedi dod i ben.
(2)
Os yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno ar yr hyn fydd telerau’r contract diogel yn yr achos hwnnw, telerau’r contract yw’r telerau y cytunwyd arnynt.
(3)
Mae is-baragraff (2) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon ynghylch ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol.
(4)
Os nad yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno ar yr hyn fydd telerau’r contract diogel yn yr achos hwnnw—
(a)
mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau diogel a wneir gyda’r landlord wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract heb eu haddasu,
(b)
mae unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny yn peidio â chael effaith, ac
(c)
fel arall, mae telerau’r contract diogel yr un fath â thelerau’r contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
(5)
Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i’r landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad y contract ar ddechrau’r contract) yn gymwys.