xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adrannau 50, 58, 115 a 119)

ATODLEN 6LL+CRHESYMOLDEB ATAL CYDSYNIAD, ETC.

RHAN 1LL+CRHAGARWEINIOL

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddiben dyfarnu—LL+C

(a)pa un a yw’n rhesymol i landlord wrthod cydsynio i drafodiad, neu

(b)pa un a yw amod y mae landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig iddo yn rhesymol.

(2)Mae Rhan 2 yn nodi amgylchiadau y mae’n rhaid eu hystyried at y diben hwnnw, i’r graddau y maent yn berthnasol (ac i’r graddau nad oes unrhyw ofyniad arall i’w hystyried at y diben hwnnw; er enghraifft, o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)).

(3)Mae Rhan 3 yn nodi amgylchiadau (yn ychwanegol at y rheini sydd yn Rhan 2) y mae’n rhaid eu hystyried at y diben hwnnw mewn perthynas â mathau penodol o drafodiad, i’r graddau y maent yn berthnasol (ac i’r graddau nad oes unrhyw ofyniad arall i’w hystyried at y diben hwnnw).

(4)Mae Rhannau 2 a 3 hefyd yn nodi amgylchiadau penodol pan fo bob amser yn rhesymol i landlord wrthod cydsynio neu osod amodau (yn ddarostyngedig i hawliau Confensiwn deiliad y contract ac unrhyw berson arall a effeithir gan benderfyniad y landlord).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

RHAN 2LL+CAMGYLCHIADAU A ALL FOD YN BERTHNASOL I RESYMOLDEB YN GYFFREDINOL

Statws contract meddiannaethLL+C

2Pa un a oes unrhyw barti i’r contract wedi cymryd camau tuag at ddod â’r contract i ben neu wedi cyflawni unrhyw weithred a all beri i’r contract ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 6 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Yr anneddLL+C

3(1)Maint ac addasrwydd yr annedd y mae’r trafodiad yn effeithio arni.

(2)Pa un a fydd yr annedd, o ganlyniad i’r trafodiad—

(a)yn annedd orlawn at ddibenion Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 324 o’r Ddeddf honno),

(b)yn darparu llety mwy helaeth o lawer na’r hyn sydd ei angen yn rhesymol ar y personau a fydd yn meddiannu’r annedd fel cartref, neu

(c)yn darparu llety nad yw’n addas ar gyfer anghenion y personau a fydd yn meddiannu’r annedd fel cartref.

(3)Pe byddai’r trafodiad yn digwydd, pa un a fyddai sail rheoli ystad yn dod ar gael i’r landlord (gweler Atodlen 8).

(4)Os oes gan y landlord ofynion sefydledig o ran—

(a)nifer y personau sydd i feddiannu’r annedd y mae’r trafodiad yn effeithio arni fel cartref, neu

(b)oedran neu nodweddion cyffredinol y personau hynny,

pa un a fydd y personau a fydd yn meddiannu’r annedd fel cartref yn ateb y gofynion hynny.

(5)Ond nid yw gofynion y landlord i’w hystyried o dan is-baragraff (4) ond i’r graddau y maent yn rhesymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Amgylchiadau deiliad contract a meddianwyr eraillLL+C

4(1)Effaith debygol y trafodiad ar—

(a)y partïon i’r trafodiad, a

(b)unrhyw berson arall sy’n meddiannu’r annedd y mae’r trafodiad yn effeithio arni fel cartref, neu a fydd yn ei meddiannu fel cartref o ganlyniad i’r trafodiad.

(2)Buddiannau ariannol deiliad y contract; ond nid yw’r is-baragraff hwn yn gymwys (yn ddarostyngedig i hawliau Confensiwn deiliad y contract) os yw’r contract meddiannaeth yn gontract diogel a’r landlord yn landlord cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 6 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

5(1)Ymddygiad deiliad y contract (gan gynnwys, yn benodol, pa un a yw’n cyflawni tor contract meddiannaeth neu wedi cyflawni tor contract meddiannaeth).

(2)Os gofynnodd y landlord i ddeiliad y contract am wybodaeth er mwyn galluogi’r landlord i ymdrin â’r cais am gydsyniad, pa un a ddarparodd deiliad y contract yr wybodaeth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I9Atod. 6 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

6Os yw deiliad y contract yn cyflawni tor contract meddiannaeth pan fydd yn gofyn am gydsyniad y landlord i’r trafodiad, mae’n rhesymol i’r landlord osod amod—

(a)nad yw cydsyniad y landlord i gael effaith ond ar ôl i ddeiliad y contract beidio â bod yn torri’r contract, neu

(b)er gwaethaf unrhyw beth yn y Ddeddf hon neu yn y contract meddiannaeth, y bydd y person, neu y bydd yr holl bersonau, a fydd yn ddeiliaid contract yn dilyn y trafodiad, yn atebol mewn perthynas â’r tor contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I11Atod. 6 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Amgylchiadau’r landlordLL+C

7(1)Buddiannau’r landlord, gan gynnwys buddiannau ariannol y landlord.

(2)Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, effaith debygol y trafodiad ar ei allu i gyflawni ei swyddogaethau ym maes tai.

(3)Pa un a fyddai (ac os felly, pryd y byddai) person yn cael annedd (neu annedd debyg i’r annedd y mae’r trafodiad yn effeithio arni) gan y landlord pe na byddai’r trafodiad yn digwydd.

(4)Os yw’n ofynnol i’r landlord gyhoeddi crynodeb o reolau o dan adran 106 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (dyrannu llety tai), y rheolau hynny.

(5)Os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, ei gynllun dyrannu (o fewn ystyr adran 167 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52)) ac unrhyw wybodaeth sydd ar gael o dan adran 167(4A) o’r Ddeddf honno i berson sy’n gwneud cais am ddyraniad llety tai.

(6)Os nad yw is-baragraff (4) nac is-baragraff (5) yn gymwys ond bod gan y landlord feini prawf ar gyfer dyrannu llety, y meini prawf hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 6 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

8(1)Mae’n rhesymol i’r landlord wrthod cydsynio i drafodiad—

(a)os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, a

(b)os, o ganlyniad i’r trafodiad, y bydd person sy’n anghymwys (neu sydd i’w drin fel pe bai’n anghymwys) i gael llety tai wedi ei ddyrannu iddo gan y landlord yn dod yn ddeiliad contract.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i drosglwyddiad i olynydd posibl o dan adran 114 nac i ddeiliad contract diogel o dan adran 118.

(3)Penderfynir pa un a yw person yn anghymwys, neu i’w drin fel pe bai’n anghymwys, i gael llety tai wedi ei ddyrannu iddo gan y landlord yn unol ag adran 160A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a rheoliadau o dan yr adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I15Atod. 6 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

RHAN 3LL+CAMGYLCHIADAU A ALL FOD YN BERTHNASOL I RESYMOLDEB MEWN CYSYLLTIAD Â THRAFODION PENODOL

Adran 49: cyd-ddeiliad contract arfaethedigLL+C

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth yn ceisio cydsyniad y landlord i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—

(a)pa un a yw’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig yn ddeiliad contract addas;

(b)pa un a yw’n aelod o deulu deiliad y contract (gweler adran 250) ac, os felly, natur y berthynas;

(c)pa un a yw’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig yn debygol o ddod yn unig ddeiliad contract mewn perthynas â’r annedd;

(d)pa un a yw’r cyd-ddeiliad yn debygol, pe na bai’n cael ei wneud yn gyd-ddeiliad contract, o olynu i’r contract o dan adran 73.

(3)Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(a) gynnwys pa un a yw cyd-ddeiliad y contract—

(a)yn debygol o gydymffurfio â’r contract, a

(b)wedi cydymffurfio â chontractau meddiannaeth eraill (boed fel deiliad contract o dan y contractau hynny neu fel arall).

(4)Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(c) gynnwys—

(a)pa un a fyddai’r landlord wedi gallu gwrthod cydsynio pe byddai deiliad y contract wedi gofyn am gydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig, a

(b)unrhyw amgylchiadau a fyddai’n berthnasol pe byddai’r landlord yn ystyried pa un ai wneud contract meddiannaeth newydd gyda’r person hwnnw mewn perthynas â’r annedd ai peidio.

(5)Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(d) gynnwys effaith debygol rhoi cydsyniad ar—

(a)y personau a all fod yn gymwys i olynu i’r contract meddiannaeth yn y dyfodol, a

(b)y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau i fod mewn grym os oes un neu ragor o’r personau hynny yn olynu iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 6 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth yn ceisio cydsyniad y landlord i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49.

(2)Os yw’r landlord o’r farn mai effaith debygol rhoi cydsyniad yw ymestyn yn sylweddol y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau mewn grym, mae’n rhesymol i’r landlord osod yr amod a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Yr amod yw bod cyd-ddeiliad y contract i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd â blaenoriaeth neu fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I19Atod. 6 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I20Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Adran 114: trosglwyddiad i olynydd posibl mewn perthynas â chontract diogelLL+C

11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel yn ceisio cydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i olynydd posibl yn unol ag adran 114.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—

(a)effaith debygol rhoi cydsyniad o ran y personau a all fod yn gymwys i olynu i’r contract meddiannaeth yn y dyfodol, a

(b)y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau i fod mewn grym os oes un neu ragor o’r personau hynny yn olynu iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 6 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I22Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel yn ceisio cydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i olynydd posibl yn unol ag adran 114.

(2)Os yw’r landlord o’r farn mai effaith debygol rhoi cydsyniad yw ymestyn yn sylweddol y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau mewn grym, mae’n rhesymol i’r landlord osod yr amod a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Yr amod yw bod yr olynydd posibl i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd â blaenoriaeth neu fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I23Atod. 6 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I24Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Adran 118: trosglwyddiad i ddeiliad contract diogel mewn perthynas â chontract diogel gyda landlord cymunedolLL+C

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—

(a)pa un a yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion ac, os ydyw, yr holl amgylchiadau sy’n ymwneud â’r trafodion eraill y bwriedir iddynt fod yn rhan o’r gyfres (gweler hefyd baragraff 14(2)), a

(b)pa un a yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad (gweler hefyd baragraff 14(3)).

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 6 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I26Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

14(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.

(2)Os yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion mae’n rhesymol gosod amod na chaiff y trosglwyddiad ddigwydd oni fydd y trafodion eraill yn digwydd.

(3)Os yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad, mae’n rhesymol gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i’r trosglwyddai gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd o’r math hwnnw mewn perthynas â’r contract diogel a drosglwyddir iddo gan y trosglwyddwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I27Atod. 6 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I28Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2