xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 6LL+CRHESYMOLDEB ATAL CYDSYNIAD, ETC.

RHAN 3LL+CAMGYLCHIADAU A ALL FOD YN BERTHNASOL I RESYMOLDEB MEWN CYSYLLTIAD Â THRAFODION PENODOL

Adran 114: trosglwyddiad i olynydd posibl mewn perthynas â chontract diogelLL+C

11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel yn ceisio cydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i olynydd posibl yn unol ag adran 114.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—

(a)effaith debygol rhoi cydsyniad o ran y personau a all fod yn gymwys i olynu i’r contract meddiannaeth yn y dyfodol, a

(b)y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau i fod mewn grym os oes un neu ragor o’r personau hynny yn olynu iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2