Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Cynlluniau blaendalLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

1(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod un neu ragor o gynlluniau blaendal ar gael.

(2)Ystyr “cynllun blaendal” yw cynllun at ddiben—

(a)diogelu blaendaliadau a delir mewn cysylltiad â chontractau meddiannaeth, a

(b)hwyluso’r broses o ddatrys anghydfodau sy’n codi mewn cysylltiad â blaendaliadau o’r fath.

(3)Ystyr “trefniadau” yw trefniadau gydag unrhyw berson (“gweinyddwr y cynllun”) y mae gweinyddwr y cynllun yn ymrwymo i sefydlu a chynnal cynllun blaendal o ddisgrifiad a bennir yn y trefniadau oddi tanynt.

(4)Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i weinyddwr y cynllun roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, ac unrhyw gyfleusterau ar gyfer cael gwybodaeth, a all fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi cymorth ariannol i weinyddwr y cynllun;

(b)gwneud taliadau eraill i weinyddwr y cynllun yn unol â’r trefniadau;

(c)rhoi gwarant mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth ariannol a ddaw i ran gweinyddwr y cynllun mewn cysylltiad â’r trefniadau.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhoi pwerau ac yn gosod dyletswyddau ar weinyddwyr cynlluniau.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 5 para. 1(1)-(5) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3Atod. 5 para. 1(6) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I4Atod. 5 para. 1(6) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2