C1ATODLEN 5CYNLLUNIAU BLAENDAL: DARPARIAETH BELLACH
I41C1Cynlluniau blaendal
I31
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod un neu ragor o gynlluniau blaendal ar gael.
I32
Ystyr “cynllun blaendal” yw cynllun at ddiben—
a
diogelu blaendaliadau a delir mewn cysylltiad â chontractau meddiannaeth, a
b
hwyluso’r broses o ddatrys anghydfodau sy’n codi mewn cysylltiad â blaendaliadau o’r fath.
I33
Ystyr “trefniadau” yw trefniadau gydag unrhyw berson (“gweinyddwr y cynllun”) y mae gweinyddwr y cynllun yn ymrwymo i sefydlu a chynnal cynllun blaendal o ddisgrifiad a bennir yn y trefniadau oddi tanynt.
I34
Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i weinyddwr y cynllun roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, ac unrhyw gyfleusterau ar gyfer cael gwybodaeth, a all fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.
I35
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
rhoi cymorth ariannol i weinyddwr y cynllun;
b
gwneud taliadau eraill i weinyddwr y cynllun yn unol â’r trefniadau;
c
rhoi gwarant mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth ariannol a ddaw i ran gweinyddwr y cynllun mewn cysylltiad â’r trefniadau.
I2I16
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhoi pwerau ac yn gosod dyletswyddau ar weinyddwyr cynlluniau.
Atod. 5 wedi ei addasu (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022 (O.S. 2022/1172), rhlau. 1(2), 8 (ynghyd â rhl. 19)