ATODLEN 4CONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL

6Caiff datganiad ysgrifenedig ymdrin â chontract diogel sy’n codi ar ddiwedd contract safonol rhagarweiniol

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r landlord a deiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod rhagarweiniol, wedi cytuno (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon o ran ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol) beth fydd telerau’r contract diogel a allai godi ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol.

2

Caiff datganiad ysgrifenedig o’r contract safonol rhagarweiniol nodi telerau’r contract diogel drwy—

a

dynodi telerau’r contract safonol rhagarweiniol na fyddant yn delerau’r contract diogel, a nodi’r telerau na fyddant ond yn gymwys i’r contract diogel, neu

b

nodi holl delerau’r contract diogel ar wahân.

3

Pan fo datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol yn ymdrin â’r contract diogel yn unol ag is-baragraff (2) (“datganiad ysgrifenedig perthnasol”)—

a

nid yw’r datganiad ysgrifenedig perthnasol yn anghywir (gweler adran 37) ond am ei fod yn ymdrin â’r contract diogel,

b

mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 31(1) (darparu datganiad ysgrifenedig) mewn perthynas â’r contract safonol, ac

c

ni chaniateir gorfodi telerau’r contract diogel yn erbyn deiliad y contract cyn dyddiad meddiannu’r contract hwnnw (ac, yn unol â hynny, nid yw adran 42 yn gymwys).

4

Os yw dyddiad meddiannu contract diogel y mae datganiad ysgrifenedig perthnasol yn ymdrin ag ef yn newid am fod y landlord wedi ymestyn y cyfnod rhagarweiniol yn unol â pharagraff 3, nid yw’r datganiad ysgrifenedig perthnasol yn anghywir ond am nad yw’n nodi’r dyddiad meddiannu newydd.