xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CCONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL

Adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod rhagarweiniolLL+C

4(1)Os yw landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 3, caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad i roi’r hysbysiad.

(2)Rhaid gwneud y cais i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract.

(3)Os yw deiliad y contract yn gofyn am adolygiad yn unol ag is-baragraff (2), rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.

(4)Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—

(a)cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu

(b)gwrthdroi’r penderfyniad.

(5)Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben o dan baragraff 1(1)(a).

(6)Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi’r rhesymau dros y cadarnhad, a

(b)hysbysu deiliad y contract bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 5, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan y paragraff hwn.

(8)Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (7), ymysg pethau eraill—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a

(b)dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 4 para. 4(1)-(6) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3Atod. 4 para. 4(7)(8) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I4Atod. 4 para. 4(7)(8) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2