xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 4LL+CCONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL

Ymestyn y cyfnod rhagarweiniolLL+C

3(1)Caniateir i’r landlord ymestyn y cyfnod rhagarweiniol i’r cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â dyddiad cyflwyno’r contract drwy roi hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract.

(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract o leiaf wyth wythnos cyn y diwrnod y byddai’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben o dan baragraff 1(1)(a).

(3)Rhaid i’r hysbysiad o estyniad ddatgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod rhagarweiniol, a nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(4)Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu deiliad y contract bod ganddo hawl i ofyn am adolygiad o dan baragraff 4 o benderfyniad y landlord i ymestyn y cyfnod rhagarweiniol, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

(5)Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod rhagarweiniol, caiff y landlord ystyried—

(a)ymddygiad deiliad y contract (neu, os oes cyd-ddeiliaid contract, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a

(b)ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.

(6)Caiff landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (5)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.

(7)Caiff Gweinidogion ddiwygio is-baragraff (2) drwy reoliadau at ddiben newid pryd y mae’n rhaid rhoi hysbysiad o estyniad i ddeiliad contractF1....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2