(a gyflwynir gan adrannau 11 a 12)

ATODLEN 3LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH A WNEIR GYDA NEU A FABWYSIEDIR GAN LANDLORDIAID CYMUNEDOL Y CANIATEIR IDDYNT FOD YN GONTRACTAU SAFONOL

Valid from 01/12/2022

Llety â chymorthLL+C

2Contract meddiannaeth sy’n ymwneud â llety â chymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Valid from 01/12/2022

Meddiannaeth ragarweiniolLL+C

3(1)Contract meddiannaeth o fewn y paragraff hwn nad yw’n ymwneud â llety â chymorth.

(2)Mae contract meddiannaeth o fewn y paragraff hwn oni bai, yn union cyn y dyddiad perthnasol—

(a)bod deiliad contract oddi tano yn ddeiliad contract o dan gontract diogel, a

(b)bod y landlord o dan y contract diogel yn landlord cymunedol.

(3)Y dyddiad perthnasol—

(a)mewn perthynas â chontract a wneir â landlord cymunedol, yw’r dyddiad meddiannu, a

(b)mewn perthynas â chontract y daw landlord cymunedol yn landlord oddi tano, yw’r diwrnod y daw’n landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Valid from 01/12/2022

F1...LL+C

F14. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1Atod. 3 para. 4 a croes bennawd wedi ei hepgor (1.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/803), rhlau. 1(1), 3 (fel y'i diwygwyd gan S.I. 2022, erglau. 1(2), 15)

Valid from 01/12/2022

Llety i bersonau sydd wedi eu dadleoliLL+C

F2 5. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Valid from 01/12/2022

Llety i bersonau digartrefLL+C

6Contract meddiannaeth a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Valid from 01/12/2022

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: cyffredinolLL+C

7(1)Contract meddiannaeth—

(a)pan fo deiliad y contract wedi ei gyflogi gan gyflogwr perthnasol, a

(b)y mae’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.

(2)Ystyr “cyflogwr perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corfforaeth dref newydd;

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai;

(d)corfforaeth datblygu trefol;

(e)landlord cymdeithasol cofrestredig (ac eithrio cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol);

(f)darparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat;

(g)rheolwr sy’n cyflawni swyddogaethau rheoli awdurdod tai lleol o dan gytundeb rheoli;

(h)corff llywodraethu unrhyw un o’r ysgolion a ganlyn (gweler Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31))—

(i)ysgol wirfoddol a gynorthwyir,

(ii)ysgol sefydledig, neu

(iii)ysgol arbennig sefydledig.

(3)Ystyr “cytundeb rheoli” yw cytundeb o dan adran 27 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) ac ystyr “rheolwr” yw person y gwneir y cytundeb ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Valid from 01/12/2022

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddluLL+C

8Contract meddiannaeth—

(a)pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a

(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Valid from 01/12/2022

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achubLL+C

9Contract meddiannaeth—

(a)pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,

(b)pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac

(c)pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Llety myfyrwyrLL+C

10(1)Contract meddiannaeth pan fo’r hawl i feddiannu yn cael ei rhoi at ddiben galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs dynodedig mewn sefydliad addysgol [F3yn unig].

(2)Ystyr “cwrs dynodedig” yw cwrs o unrhyw fath a ragnodir at ddibenion y paragraff hwn.

(3)Ystyr “sefydliad addysgol” yw sefydliad neu brifysgol sy’n darparu addysg bellach neu addysg uwch (neu’r ddau); ac mae i “addysg bellach” ac “addysg uwch” yr un ystyron â “further education” a “higher education” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56) (gweler adrannau 2 a 579 o’r Ddeddf honno).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I9Atod. 3 para. 10(2) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

Valid from 01/12/2022

Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblyguLL+C

11(1)Contract meddiannaeth—

(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a

(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.

(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Valid from 01/12/2022

Llety dros dro: personau sy’n dechrau gwaithLL+C

12Contract meddiannaeth—

(a)pan nad oedd deiliad y contract yn byw yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r annedd ynddi yn union cyn gwneud y contract,

(b)pan fo deiliad y contract wedi cael gwaith neu wedi cael cynnig gwaith yn yr ardal honno neu mewn ardal awdurdod tai lleol gyfagos cyn gwneud y contract, ac

(c)pan fo’r hawl i feddiannu wedi ei rhoi at ddiben diwallu angen deiliad y contract am lety dros dro yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r annedd ynddi neu yn ardal awdurdod tai lleol gyfagos er mwyn gweithio yno, a’i alluogi i ganfod llety parhaol yno.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Valid from 01/12/2022

Llety dros dro: trefniadau tymor byrLL+C

13Contract meddiannaeth—

(a)pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,

(b)pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,

(c)nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a

(d)nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Valid from 01/12/2022

Llety dros dro: llety yn ystod gwaithLL+C

14(1)Contract meddiannaeth—

(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,

(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac

(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.

(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Llety nad yw’n llety cymdeithasolLL+C

15(1)Contract meddiannaeth—

(a)pan nad oedd y rheolau dyrannu yn gymwys i wneud y contract, neu

(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract oherwydd ei fod yn weithiwr allweddol.

(2)Y rheolau dyrannu yw rheolau’r landlord ar gyfer pennu blaenoriaeth rhwng ymgeiswyr wrth ddyrannu llety tai, ac maent yn cynnwys unrhyw reol neu arfer sy’n golygu bod y landlord yn darparu llety i bersonau a enwebir gan awdurdod tai lleol.

(3)Penderfynir a yw deiliad contract yn “weithiwr allweddol” yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n nodi gweithwyr allweddol drwy gyfeirio at natur eu cyflogaeth, at bwy yw eu cyflogwr, ac at swm eu henillion.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I15Atod. 3 para. 15(3)(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

Valid from 01/12/2022

Anheddau a fwriedir ar gyfer trosglwyddoLL+C

16Contract meddiannaeth—

(a)pan fo’r landlord cymunedol yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat,

(b)pan fo’r landlord wedi caffael neu adeiladu neu wedi datblygu’r annedd mewn ffordd arall gyda’r bwriad o’i throsglwyddo i gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, ac

(c)pan wneir y contract meddiannaeth ymlaen llaw gan ragweld trosglwyddo’r annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Pŵer i ddiwygio’r AtodlenLL+C

17Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1