ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 3TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU NAD YDYNT BYTH YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH
Ystyr “tenantiaeth hir”
8
(1)
Ystyr “tenantiaeth hir” yw—
(a)
tenantiaeth am gyfnod penodol o fwy na 21 mlynedd (pa un a ellir ei derfynu neu y caniateir ei derfynu cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu drwy ailfynediad neu fforffediad ai peidio),
(b)
tenantiaeth am gyfnod sydd wedi ei bennu gan y gyfraith oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus, ac eithrio tenantiaeth drwy is-les o dan un nad yw’n denantiaeth hir, neu
(c)
tenantiaeth a wneir yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr hawl i brynu), gan gynnwys tenantiaeth a wneir yn unol â’r Rhan honno F1fel yr oedd y Rhan honno yn cael effaith oherwydd adran 17 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (yr hawl i gaffael).
(2)
Ond nid yw tenantiaeth y gellir ei therfynu drwy hysbysiad ar ôl marwolaeth yn denantiaeth hir oni bai ei bod yn denantiaeth cydberchnogaeth.
(3)
Tenantiaeth cydberchnogaeth yw tenantiaeth—
(a)
a wnaed â chymdeithas dai a oedd yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig,
(b)
a wnaed am bremiwm a gyfrifwyd drwy gyfeirio at ganran o werth yr annedd neu gost ei darparu, ac
(c)
a oedd, pan gafodd ei gwneud, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cydberchnogaeth a oedd mewn grym ar y pryd.
(4)
Mae tenantiaeth a wnaed cyn bod unrhyw reoliadau cydberchnogaeth mewn grym i’w thrin fel pe bai o fewn is-baragraff (3)(c) os oedd, pan wnaed y denantiaeth, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cyntaf o’r fath i ddod i rym ar ôl iddi gael ei gwneud.
(5)
Ystyr “rheoliadau cydberchnogaeth” yw rheoliadau o dan—
(a)
adran 140(4)(b) o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), neu
(b)
paragraff 5 o Atodlen 4A i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) a wnaed at ddibenion paragraff 4(2)(b) o’r Atodlen honno.