ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7

RHAN 2TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD

Ystyr “trefniant hwylus dros dro”

5

(1)

Mae tenantiaeth neu drwydded yn drefniant hwylus dros dro os caiff ei gwneud fel trefniant hwylus dros dro gyda pherson a aeth i’r annedd y mae’n berthnasol iddi (neu unrhyw annedd arall) fel tresmaswr.

(2)

At ddibenion y paragraff hwn mae’n amherthnasol a wnaed, cyn dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, denantiaeth neu drwydded arall i feddiannu’r annedd (neu unrhyw annedd arall) â’r person ai peidio.

(3)

Nid yw tenantiaeth neu drwydded sy’n dod i fodolaeth yn sgil adran 238 yn drefniant hwylus dros dro.