xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CEITHRIADAU I ADRAN 7

RHAN 2LL+CTENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD

Ystyr “trefniant hwylus dros dro”LL+C

5(1)Mae tenantiaeth neu drwydded yn drefniant hwylus dros dro os caiff ei gwneud fel trefniant hwylus dros dro gyda pherson a aeth i’r annedd y mae’n berthnasol iddi (neu unrhyw annedd arall) fel tresmaswr.

(2)At ddibenion y paragraff hwn mae’n amherthnasol a wnaed, cyn dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, denantiaeth neu drwydded arall i feddiannu’r annedd (neu unrhyw annedd arall) â’r person ai peidio.

(3)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sy’n dod i fodolaeth yn sgil adran 238 yn drefniant hwylus dros dro.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2