ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 2TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD
Ystyr “sefydliad gofal”
4
Ystyr “sefydliad gofal” yw—
(a)
ysbyty gwasanaeth iechyd, yn yr ystyr sydd i “health service hospital” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 49) (gweler adran 206(1) o’r Ddeddf honno),
F1(b)
ysbyty annibynnol, yn yr ystyr sydd i “independent hospital” yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno),
(c)
man lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn,
(d)
man lle y mae gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu, neu
(e)
man y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn cysylltiad ag ef i ddarparu—
(i)
gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu
(ii)
gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno i bersonau sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf o dan 18 oed.