ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 2TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD
Ystyr “sefydliad gofal”
4
Ystyr “sefydliad gofal” yw—
(a)
ysbyty gwasanaeth iechyd, yn yr ystyr sydd i “health service hospital” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 49) (gweler adran 206(1) o’r Ddeddf honno),
(b)
ysbyty annibynnol, cartref gofal neu ganolfan breswyl i deuluoedd, yn yr ystyr sydd i “independent hospital”, “care home” a “residential family centre” yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (gweler adrannau 2 i 4 o’r Ddeddf honno), neu
(c)
cartref plant y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno mewn perthynas ag ef.