ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 2TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD
Y rheol
3
(1)
Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi, yn gontract meddiannaeth oni bai y bodlonir yr amod hysbysu.
(2)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded—
(a)
sy’n rhoi’r hawl i feddiannu annedd at ddibenion gwyliau,
(b)
sy’n ymwneud â darparu llety mewn sefydliad gofal (gweler paragraff 4),
(c)
sy’n drefniant hwylus dros dro (gweler paragraff 5), neu
(d)
y mae’r eithriad llety a rennir yn gymwys iddi (gweler paragraff 6).
(3)
Mae’r amod hysbysu wedi ei fodloni os yw’r landlord, cyn neu ar adeg gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn rhoi hysbysiad i’r person y’i gwneir ag ef yn datgan y bydd yn gontract meddiannaeth.