ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 5TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: LLETY Â CHYMORTH
Adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn
16
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 15 i denant neu drwyddedai.
(2)
Caiff y tenant neu’r trwyddedai wneud cais i’r llys sirol am adolygiad—
(a)
pan fo’r landlord yn awdurdod tai lleol, o’r penderfyniad i roi hysbysiad o estyniad, neu
(b)
pan na fo’r landlord yn awdurdod tai lleol, o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i gydsynio bod y landlord yn rhoi’r hysbysiad o estyniad.
(3)
Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai.
(4)
Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-baragraff (3), ond dim ond os yw’n fodlon—
(a)
os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw’r tenant neu’r trwyddedai wedi gallu gwneud y cais mewn pryd, neu
(b)
os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod y tenant neu’r trwyddedai wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.
(5)
Caiff y llys sirol—
(a)
cadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad, neu
(b)
amrywio hyd yr estyniad (yn ddarostyngedig i baragraff 15(2)).
(6)
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, neu amrywio hyd yr estyniad, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
(7)
Os yw’r llys sirol yn amrywio hyd yr estyniad, mae’r hysbysiad o estyniad yn cael effaith yn unol â hynny.
(8)
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad—
(a)
nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o estyniad, a
(b)
caiff y llys sirol wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
(9)
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad a bod y landlord yn rhoi hysbysiad pellach o estyniad o dan baragraff 15 i’r tenant neu’r trwyddedai cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad, mae’r hysbysiad yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi yn unol â pharagraff 15(3) (heblaw at ddibenion is-baragraff (3)).
(10)
Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn amrywio hyd yr estyniad neu’n diddymu’r penderfyniad.