xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CEITHRIADAU I ADRAN 7

RHAN 5LL+CTENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: LLETY Â CHYMORTH

Ymestyn y cyfnod perthnasolLL+C

15(1)Caniateir i’r landlord (unwaith neu fwy nag unwaith) ymestyn cyfnod perthnasol tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) drwy roi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai yn unol â’r paragraff hwn.

(2)Ni chaniateir ymestyn y cyfnod perthnasol gan fwy na thri mis ar unrhyw achlysur unigol.

(3)Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dod i ben o dan ba un bynnag o’r canlynol sy’n gymwys—

(a)paragraff 13(3)(a) neu (b);

(b)paragraff 14(3)(a) neu (b);

(c)paragraff 14(4)(a) neu (b);

(d)paragraff 14(5)(a) neu (b).

(4)Cyn rhoi hysbysiad o estyniad, rhaid i’r landlord ymgynghori â’r tenant neu’r trwyddedai.

(5)Ni chaiff landlord (ac eithrio awdurdod tai lleol) roi hysbysiad o estyniad heb gydsyniad yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal.

(6)Rhaid i’r hysbysiad o estyniad—

(a)datgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol,

(b)nodi’r rhesymau dros ymestyn y cyfnod perthnasol,

(c)os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, datgan bod yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal wedi cydsynio i’r estyniad, a

(d)pennu’r dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol yn dod i ben.

(7)Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu’r tenant neu’r trwyddedai bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 16, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

(8)Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol, caiff y landlord ystyried—

(a)ymddygiad y tenant neu’r trwyddedai (neu, os oes mwy nag un tenant neu drwyddedai, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a

(b)ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.

(9)Caiff y landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (8)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau at ddibenion is-baragraff (5), gan gynnwys darpariaeth am y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn perthynas â sicrhau cydsyniad awdurdod tai lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 2 para. 15(1)-(9) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3Atod. 2 para. 15(10) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I4Atod. 2 para. 15(10) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2