ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 5TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: LLETY Â CHYMORTH
Ymestyn y cyfnod perthnasol
15
(1)
Caniateir i’r landlord (unwaith neu fwy nag unwaith) ymestyn cyfnod perthnasol tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) drwy roi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai yn unol â’r paragraff hwn.
(2)
Ni chaniateir ymestyn y cyfnod perthnasol gan fwy na thri mis ar unrhyw achlysur unigol.
(3)
Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dod i ben o dan ba un bynnag o’r canlynol sy’n gymwys—
(a)
paragraff 13(3)(a) neu (b);
(b)
paragraff 14(3)(a) neu (b);
(c)
paragraff 14(4)(a) neu (b);
(d)
paragraff 14(5)(a) neu (b).
(4)
Cyn rhoi hysbysiad o estyniad, rhaid i’r landlord ymgynghori â’r tenant neu’r trwyddedai.
(5)
Ni chaiff landlord (ac eithrio awdurdod tai lleol) roi hysbysiad o estyniad heb gydsyniad yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal.
(6)
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad—
(a)
datgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol,
(b)
nodi’r rhesymau dros ymestyn y cyfnod perthnasol,
(c)
os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, datgan bod yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal wedi cydsynio i’r estyniad, a
(d)
pennu’r dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol yn dod i ben.
(7)
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu’r tenant neu’r trwyddedai bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 16, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
(8)
Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol, caiff y landlord ystyried—
(a)
ymddygiad y tenant neu’r trwyddedai (neu, os oes mwy nag un tenant neu drwyddedai, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a
(b)
ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.
(9)
Caiff y landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (8)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.
(10)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau at ddibenion is-baragraff (5), gan gynnwys darpariaeth am y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn perthynas â sicrhau cydsyniad awdurdod tai lleol.