ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 5TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: LLETY Â CHYMORTH
Ystyr y cyfnod perthnasol pan fo contractau blaenorol
14
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) (“y denantiaeth neu’r drwydded bresennol”)—
(a)
os oedd gan y tenant neu’r trwyddedai hawl flaenorol i feddiannu llety â chymorth o dan un neu ragor o gontractau blaenorol perthnasol, a
(b)
os yw’r denantiaeth neu’r drwydded bresennol yn olynu contract blaenorol perthnasol yn uniongyrchol.
(2)
Tenantiaeth neu drwydded yw contract blaenorol perthnasol, sy’n ymwneud â llety â chymorth ac—
(a)
â’r annedd y mae’r denantiaeth neu’r drwydded bresennol yn berthnasol iddi (“yr annedd bresennol”);
(b)
os yw’r annedd bresennol yn ffurfio rhan o adeilad yn unig, ag annedd arall—
(i)
sydd yn yr adeilad hwnnw, neu
(ii)
os yw’r adeilad hwnnw yn un o nifer o adeiladau a reolir fel un endid, sydd yn unrhyw un neu ragor o’r adeiladau hynny.
(3)
Os un tenant neu drwyddedai un unig sydd, ac un contract blaenorol perthnasol, y cyfnod perthnasol yw—
(a)
y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r contract blaenorol perthnasol, neu
(b)
os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.
(4)
Os un tenant neu drwyddedai yn unig sydd, a bod dau neu ragor o gontractau blaenorol perthnasol yn olynu ei gilydd yn uniongyrchol, y cyfnod perthnasol yw—
(a)
y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r cyntaf o’r contractau hynny, neu
(b)
os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.
(5)
Os oes cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, y cyfnod perthnasol yw—
(a)
y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad a gyfrifir—
(i)
drwy ddarganfod, mewn perthynas â phob cyd-denant neu gyd-drwyddedai, y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dechrau o dan is-baragraffau (3)(a) neu (4)(a) pe byddai’n unig denant neu’n unig drwyddedai, a
(ii)
drwy gymryd y cynharaf o’r dyddiadau hynny, neu
(b)
os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad o estyniad.
(6)
Mae tenantiaeth neu drwydded (“contract 2”) yn olynydd uniongyrchol i denantiaeth neu drwydded arall (“contract 1”) os yw contract 1 yn dod i ben yn union cyn dyddiad dechrau contract 2.