ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7

RHAN 4TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: DIGARTREFEDD

12

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, yn unol ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau darparu tai i’r digartref, yn gwneud trefniadau â landlord perthnasol ar gyfer darparu llety.

(2)

Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond a wneir â landlord perthnasol yn unol â’r trefniadau, yn gontract meddiannaeth hyd nes yn union ar ôl diwedd y cyfnod hysbysu.

(3)

Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod hysbysu, yn rhoi hysbysiad i’r person y gwneir y denantiaeth neu’r drwydded ag ef ei bod yn gontract meddiannaeth.

(4)

Y cyfnod hysbysu yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ag—

(a)

y diwrnod y cafodd y person hwnnw ei hysbysu—

(i)

o ganlyniad asesiad yr awdurdod o dan adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu o benderfyniad yr awdurdod o dan adran 80(5) o’r Ddeddf honno, neu (yn ôl y digwydd)

(ii)

o benderfyniad yr awdurdod o dan adran 184(3) neu 198(5) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), neu

(b)

os oes—

(i)

adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 85 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 neu apêl i’r llys sirol o dan adran 88 o’r Ddeddf honno, neu (yn ôl y digwydd)

(ii)

adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 202 o Ddeddf Tai 1996 neu apêl i’r llys o dan adran 204 o’r Ddeddf honno,

y diwrnod yr hysbysir y person hwnnw o ganlyniad yr asesiad neu o benderfyniad yr adolygiad, neu’r diwrnod y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.

(5)

Yn y paragraff hwn—

ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw—

(a)

mewn perthynas â Chymru, cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru neu gyngor bwrdeistref sirol, a

(b)

mewn perthynas â Lloegr, cyngor dosbarth, cyngor bwrdeistref yn Llundain, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain neu Gyngor Ynysoedd Sili;

ystyr “landlord perthnasol” (“relevant landlord”) yw—

(a)

landlord cymunedol sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, neu

(b)

landlord preifat;

ystyr “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” (“homelessness housing functions”) yw—

(a)

mewn perthynas ag awdurdod tai lleol ar gyfer ardal yng Nghymru, ei swyddogaethau o dan adrannau 68, 73, 75, 82 ac 88(5) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a

(b)

mewn perthynas ag awdurdod tai lleol ar gyfer ardal yn Lloegr, ei swyddogaethau o dan adrannau 188, 190, 200 a 204(4) o Ddeddf Tai 1996.