xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12LL+CTROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonolLL+C

9(1)Mae’r canlynol yn eithriadau ychwanegol i adrannau 11(1) a 12(3) (contractau a wneir neu a fabwysiedir gan landlord cymunedol yn gontractau diogel).

(2)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth ddiogel, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 89, 91 neu 93 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (olyniaeth, aseinio ac is-osod).

(3)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth ragarweiniol, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (olyniaeth).

(4)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth isradd, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 143I o Ddeddf Tai 1996 (olyniaeth).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2