ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonol
7
(1)
Mae contract wedi ei drosi y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn eithriad ychwanegol i adran 11(1) (contractau a wneir â landlord cymunedol yn gontractau diogel).
(2)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol yn union cyn y diwrnod penodedig, cyn belled â—
(a)
bod premiwm wedi ei dalu am y contract, a
(b)
cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, bod deiliad y contract yn penderfynu y dylai’r contract ddod yn gontract safonol cyfnod penodol.
(3)
Cyn y diwrnod penodedig, rhaid i landlord cymunedol sy’n landlord o dan denantiaeth neu drwydded am gyfnod penodol, ac y talwyd premiwm ar ei chyfer—
(a)
hysbysu deiliad y contract o’i hawl i benderfynu o dan is-baragraff (2)(b) y dylai’r contract ddod yn gontract safonol, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y penderfyniad, a
(b)
egluro sut y bydd adran 11 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.