ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonol
F16A.
Nid yw contract wedi ei drosi sy’n ymwneud â llety â chymorth ond yn cael effaith fel contract safonol â chymorth os, yn union cyn y diwrnod penodedig, yr oedd y contract yn—
(a)
tenantiaeth fyrddaliol sicr (gweler paragraff 24A ar gyfer darpariaeth bellach ynghylch contractau safonol â chymorth a oedd yn denantiaethau byrddaliol sicr), neu
(b)
trwydded, heblaw trwydded a oedd yn denantiaeth ddiogel.