ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonol
F15
Mae contract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn—
(a)
tenantiaeth ragarweiniol, neu
(b)
tenantiaeth fyrddaliol sicr—
(i)
yr oedd y landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr cofrestredig preifat o dai cymdeithasol oddi tani, ond nid cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, a
(ii)
y mynegwyd ei bod yn denantiaeth gychwynnol, neu fel arall ei bod yn gyfystyr â hynny,
yn cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol (gweler paragraff 23).