Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonolLL+C
[F15Mae contract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn—
(a)tenantiaeth ragarweiniol, neu
(b)tenantiaeth fyrddaliol sicr—
(i)yr oedd y landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr cofrestredig preifat o dai cymdeithasol oddi tani, ond nid cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, a
(ii)y mynegwyd ei bod yn denantiaeth gychwynnol, neu fel arall ei bod yn gyfystyr â hynny,
yn cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol (gweler paragraff 23).]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 12 para. 5 wedi eu amnewid (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 6(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2