xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4(1)Caiff y landlord o dan gontract wedi ei drosi [F1y mae adran 11 yn gymwys iddo (pa un ai o dan baragraff 3 ai peidio)] roi [F2hysbysiad fel y’i disgrifir yn] adran 11(2)(b) (hysbysiad o gontract safonol) ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.
(2)Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi dod yn gontract safonol ar y diwrnod penodedig.
(3)Caiff y landlord o dan gontract wedi ei drosi roi hysbysiad o dan adran 17(1) (hysbysiad o gontract diogel) ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.
(4)Os yw’r landlord yn [F3rhoi hysbysiad o dan adran 13], mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi dod yn gontract diogel ar y diwrnod penodedig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 12 para. 4(1) mewnosodwyd (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 6(a)(i)
F2Geiriau yn Atod. 12 para. 4(1) wedi eu amnewid (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 6(a)(ii)
F3Geiriau yn Atod. 12 para. 4(2) wedi eu amnewid (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 6(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2