Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

3(1)Mae adrannau 11 i 17 (landlordiaid cymunedol a landlordiaid preifat) yn gymwys i gontract wedi ei drosi—

(a)y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat, a

(b)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel yr oedd y landlord oddi tani yn landlord preifat,

fel pe bai’r landlord yn landlord cymunedol.

(2)Ond yn adran 14 (adolygu hysbysiad o gontract safonol) mae is-adran (1) yn gymwys fel pe bai “a bod penderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol” wedi ei fewnosod ar ôl “adran 13”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2