ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
Penderfynu a yw tenantiaeth neu drwydded sy’n bodoli eisoes yn gontract meddiannaeth
F12A.
(1)
) Nid yw adran 7(6) a pharagraff 7(2) o Atodlen 2 yn gymwys i drwydded pan fo, yn union cyn y diwrnod penodedig—
(a)
y trwyddedai yn 16 neu 17 oed, a
(b)
y drwydded yn—
(i)
tenantiaeth ddiogel, neu
(ii)
meddiannaeth amaethyddol sicr.
(2)
Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, mae’r Ddeddf hon yn gymwys i ddeiliad y contract fel pe bai ef neu hi yn 18 oed.