Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Y landlord yn terfynu contract a oedd yn denantiaeth sicr: seiliau meddiant absoliwt ychwanegolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

29(1)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn [F1denantiaeth sicr gyfnodol].

(2)Caiff y landlord hawlio meddiant o’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract gan ddibynnu ar Sail 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50)

(a)os bu farw’r tenant o dan y denantiaeth sicr cyn y diwrnod penodedig, a

(b)os yw’r denantiaeth sicr wedi disgyn o dan ewyllys y tenant neu o dan y rheolau diewyllysedd cyn y diwrnod penodedig, neu os yw’r contract wedi ei drosi yn disgyn felly ar ôl y diwrnod penodedig.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud hynny cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract yn pennu’r Sail honno.

(4)Yn ddarostyngedig i adran 204 (hawliadau meddiant: pwerau’r llys) (sy’n gymwys fel pe bai is-adran (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at is-baragraff (3)), os yw’r llys wedi ei fodloni bod y Sail wedi ei phrofi rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 29 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3Atod. 12 para. 28 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2