xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
26(1)Nid yw adran 194 (cymal terfynu’r landlord) yn gymwys i’r contractau safonol cyfnod penodol a ganlyn (ac yn unol â hynny nid yw adrannau 195 i 201 wedi eu hymgorffori fel telerau contractau o’r fath).
(2)Contract safonol cyfnod penodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel am gyfnod penodol.
(3)Contract safonol cyfnod penodol—
(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr am gyfnod penodol, a
(b)nad yw’n gontract wedi ei eithrio.
(4)Mae contract yn gontract wedi ei eithrio pe gallai’r landlord, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar Sail 3 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 12 para. 26 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I3Atod. 12 para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2