xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12LL+CTROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Y landlord yn terfynu’r contractLL+C

[F125D(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol [F2(heblaw tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 26(2) neu (3))] a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol a oedd yn cynnwys cymal terfynu’r landlord.

(2)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—

(a)yn adran 194 (cymal terfynu’r landlord)—

(i)yn is-adran (1), y geiriau “sydd o fewn is-adran (1A)” wedi eu hepgor, a

(ii)is-adran (1A) wedi ei hepgor,

(b)yn adran 195 (y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,

(c)yn adran 196 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “18 mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “18 mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), a

(d)Atodlen 9C wedi ei hepgor.]