xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12LL+CTROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Y landlord yn terfynu’r contractLL+C

25Nid yw adrannau 173 i 180 (terfynu yn sgil hysbysiad y landlord) yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2