ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Contract safonol ymddygiad gwaharddedig

24

(1)

Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n cael effaith fel contract safonol ymddygiad gwaharddedig oherwydd paragraff 6 fel pe bai—

(a)

y gorchymyn israddio yn orchymyn o dan adran 116 (gorchymyn yn arddodi contract safonol cyfnodol),

(b)

cyfeiriadau at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriadau at y diwrnod y cafodd y gorchymyn israddio effaith, ac

(c)

paragraffau 4 i 7 o Atodlen 7 (newid y cyfnod prawf) wedi eu hepgor.

(2)

Y “gorchymyn israddio” yw—

(a)

y gorchymyn o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) neu adran 6A o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) yr oedd adran 20B o Ddeddf Tai 1988 yn gymwys o’i herwydd, neu

(b)

y gorchymyn o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 yr oedd adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) yn gymwys o’i herwydd.