Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Contractau safonol rhagarweiniolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

23(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol oherwydd paragraff 5.

(2)Mae cyfnod rhagarweiniol y contract yn dod i ben—

(a)os bu farw’r tenant cyn y diwrnod penodedig, a

(b)os ceir digwyddiad ar ôl y diwrnod hwnnw a fyddai, oni bai am y Ddeddf hon, wedi peri i’r contract beidio â bod yn denantiaeth ragarweiniol o dan adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (olyniaeth),

ac nid yw adran 16(1)(b) o’r Ddeddf hon (trosi i gontract diogel) yn gymwys pan fo’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd yr is-baragraff hwn.

[F1(3) Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—

(a)yn adran 174 (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,

(b)yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at “chwe mis” yn gyfeiriadau at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), ac

[F2(c)y cyfeiriad ym mharagraff 1(7) o Atodlen 4 at ddyddiad cyflwyno’r contract yn gyfeiriad—

(i)mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ragarweiniol, at y diwrnod a oedd yn ddechrau’r cyfnod prawf o dan adran 125(2)(a) neu (b) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

(ii)mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth gychwynnol, at ddyddiad cyflwyno’r denantiaeth fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (5).]]

(4)Mae paragraff 2 o Atodlen 4 (cyfnod rhagarweiniol pan fo contractau blaenorol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at gontractau safonol rhagarweiniol yn gyfeiriadau at—

(a)tenantiaethau byrddaliol sicr yr oedd y landlord oddi tanynt yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat, neu

(b)tenantiaethau rhagarweiniol.

(5)At ddibenion paragraff 2 o Atodlen 4 dyddiad cyflwyno tenantiaeth fyrddaliol sicr yr oedd y landlord oddi tani yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig yw—

(a)y diwrnod yr oedd gan y tenant hawl i ddechrau meddiannu’r annedd, neu

(b)os na wnaed y denantiaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, y diwrnod y daeth landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig yn landlord.

[F3(6)At ddibenion paragraff 2 o Atodlen 4, y dyddiad cyflwyno—

(a)mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ragarweiniol, yw’r diwrnod a oedd yn ddechrau’r cyfnod prawf o dan adran 125(2)(a) neu (b) o Ddeddf Tai 1996;

(b)mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth gychwynnol, yw dyddiad cyflwyno’r denantiaeth fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (5).]

[F4(7)Nid yw paragraff 2(5) a (6) o Atodlen 4 yn gymwys, ond—

(a)mae hysbysiad o estyniad a roddir, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ragarweiniol, o dan adran 125A o Ddeddf Tai 1996, a

(b)mae hysbysiad, a roddir mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth gychwynnol, sy’n estyn y cyfnod y bydd y landlord a’r tenant yn ymrwymo i denantiaeth sicr (nad yw’n denantiaeth fyrddaliol sicr) ar ei ddiwedd,

yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan baragraff 3 o Atodlen 4 (ac, ni waeth faint yw hyd yr estyniad o dan hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (b), mae’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben 18 mis ar ôl dyddiad cyflwyno’r denantiaeth gychwynnol (fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff 5)).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 23 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2