xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
20(1)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract—
(a)os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 6,
(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac
(c)os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.
Y MATH O DENANTIAETH | Y DDARPARIAETH FREINIO | Y DARPARIAETHAU CYMHWYSO |
---|---|---|
Tenantiaeth ddiogel | Adran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) | Adrannau 87 a 113(1)(a) o’r Ddeddf honno |
Tenantiaeth ragarweiniol | Adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) | Adrannau 131 a 140(1)(a) o’r Ddeddf honno |
Tenantiaeth isradd | Adran 143H o Ddeddf Tai 1996 | Adran 143P(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf honno |
(2)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi hefyd i’w drin fel olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract—
(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,
(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac
(c)os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord cymunedol.