ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

2Penderfynu a yw tenantiaeth neu drwydded sy’n bodoli eisoes yn gontract meddiannaeth

1

Mae Atodlen 2 yn gymwys i—

a

tenantiaeth neu drwydded a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig, a

b

tenantiaeth a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ond nad yw o fewn paragraff (a),

fel pe bai paragraffau 3(2)(b) a 4 (sefydliadau gofal) wedi eu hepgor.

2

Mae Atodlen 2 yn gymwys i denantiaeth a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig fel pe bai paragraffau 3(2)(c) a 5 (trefniadau hwylus dros dro) wedi eu hepgor.

3

Caiff y landlord, mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig, roi hysbysiad o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2 ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.

4

Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r denantiaeth neu’r drwydded i’w thrin fel pe bai wedi dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.