ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
Penderfynu a yw tenantiaeth neu drwydded sy’n bodoli eisoes yn gontract meddiannaeth
2
(1)
Mae Atodlen 2 yn gymwys i—
(a)
tenantiaeth neu drwydded a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig, a
(b)
tenantiaeth a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ond nad yw o fewn paragraff (a),
fel pe bai paragraffau 3(2)(b) a 4 (sefydliadau gofal) wedi eu hepgor.
(2)
Mae Atodlen 2 yn gymwys i denantiaeth a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig fel pe bai paragraffau 3(2)(c) a 5 (trefniadau hwylus dros dro) wedi eu hepgor.
F1(2A)
Mae Atodlen 2 yn gymwys i denantiaeth neu drwydded a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel neu’n denantiaeth sicr fel pe bai paragraff 7(3)(k)(i) o’r Atodlen honno wedi ei hepgor.
(3)
Caiff y landlord, mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig, roi hysbysiad o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2 ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.
(4)
Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r denantiaeth neu’r drwydded i’w thrin fel pe bai wedi dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.
F2(5)
Nid yw Rhan 5 o Atodlen 2 (rheolau arbennig sy’n gymwys i lety â chymorth) yn gymwys i—
(a)
tenantiaeth a oedd yn bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;
(b)
trwydded—
(i)
a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel;
(ii)
sydd â dyddiad dechrau (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 13(5) o Atodlen 2) sy’n dod mwy na 6 mis cyn y diwrnod penodedig.
(6)
Wrth eu cymhwyso i denantiaeth neu drwydded a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn feddiannaeth amaethyddol sicr—
(a)
mae adran 7 (tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth) yn gymwys fe pe bai isadran (1)(b) (rhaid i rent neu gydnabyddiaeth arall fod yn daladwy) wedi ei hepgor, a
(b)
mae Atodlen 2 yn gymwys fel pe bai paragraff 1(2) wedi ei hepgor.