Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

DelioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi—

(a)sy’n gontract diogel neu’n gontract safonol cyfnodol, a

(b)y mae cyd-ddeiliaid contract oddi tano a oedd yn denantiaid cydradd mewn ecwiti yn union cyn y diwrnod penodedig.

(2)Mae’r darpariaethau contractau safonol cyfnod penodol a grybwyllir yn is-adran (1) o bob un o adrannau 140, 141 a 142 (trosglwyddiadau) yn delerau’r contract, ac mae is-adrannau (2) a (3) o bob un o’r adrannau hynny yn gymwys yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 17 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3Atod. 12 para. 18 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2