ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Gwast ac ymddwyn fel tenant

16

Nid yw adran 101 yn gymwys i gontract wedi ei drosi; felly—

(a)

mae deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi yn ddarostyngedig i’r un atebolrwydd am wast mewn perthynas â’r annedd ag yr oedd yn ddarostyngedig iddo yn union cyn y diwrnod penodedig, a

(b)

mae’r rheol gyfreithiol sy’n golygu bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio mangre sydd ar les yn gymwys i ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi fel yr oedd yn gymwys iddo yn union cyn y diwrnod penodedig.