15(1)Mae adrannau 104 a 123 (amrywio rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi [F1(heblaw contract a grybwyllir ym mharagraff 13B)] fel pe bai unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig yn amrywiadau o dan ba rai bynnag o’r adrannau hynny sy’n berthnasol.
[F2(1A)Mae adrannau 104 ac 123 (amrywio’r rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)(a) ym mhob un o’r adrannau hyn—
“(a)ni chaiff yr hysbysiad cyntaf a roddir ar ôl y diwrnod penodedig bennu dyddiad sy’n gynharach na 51 o wythnosau ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf, a”.]
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau—
(a)sy’n galluogi deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, ar ôl derbyn hysbysiad o dan adran 104 neu 123, wneud cais i berson neu bersonau rhagnodedig bennu’r rhent ar gyfer yr annedd, a
(b)i’r rhent a bennir gan y person neu’r personau rhagnodedig, yn unol ag unrhyw ragdybiaethau a gaiff eu rhagnodi, fod y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract (oni bai bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno fel arall).
[F3(3)Mae contract wedi ei drosi yn gontract wedi ei drosi perthnasol—
(a)os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi,
(b)os yw’n gontract safonol cyfnodol sy’n cymryd lle contract arall (gweler paragraff 32)—
(i)sy’n codi o dan adran 184(2), neu
(ii)sydd o fewn adran 184(6),
a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol, neu
(c)os yw’n gontract sicr a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 12 para. 15(1) mewnosodwyd (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 12(a)
F2Atod. 12 para. 15(1A) wedi ei fewnosod (30.11.2022 am 11.00 p.m.) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1258), rhlau. 1(2), 4
F3Atod. 12 para. 15(3) wedi eu amnewid (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 12(b)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Atod. 12 para. 15(1)(1A) wedi ei cymhwyso (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022 (O.S. 2022/1172), rhlau. 1(2), 10(6) (ynghyd â rhl. 19) (fel y'i amnewidwyd gan O.S. 2022/1258, rhlau. 1(2), 6)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 12 para. 15(2) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
I3Atod. 12 para. 15(1)(3) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I4Atod. 12 para. 15(2) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2