ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

15

(1)

Mae adrannau 104 a 123 (amrywio rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi F1(heblaw contract a grybwyllir ym mharagraff 13B) fel pe bai unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig yn amrywiadau o dan ba rai bynnag o’r adrannau hynny sy’n berthnasol.

F2(1A)

Mae adrannau 104 ac 123 (amrywio’r rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)(a) ym mhob un o’r adrannau hyn—

“(a)

ni chaiff yr hysbysiad cyntaf a roddir ar ôl y diwrnod penodedig bennu dyddiad sy’n gynharach na 51 o wythnosau ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf, a”.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau—

(a)

sy’n galluogi deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, ar ôl derbyn hysbysiad o dan adran 104 neu 123, wneud cais i berson neu bersonau rhagnodedig bennu’r rhent ar gyfer yr annedd, a

(b)

i’r rhent a bennir gan y person neu’r personau rhagnodedig, yn unol ag unrhyw ragdybiaethau a gaiff eu rhagnodi, fod y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract (oni bai bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno fel arall).

F3(3)

Mae contract wedi ei drosi yn gontract wedi ei drosi perthnasol—

(a)

os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi,

(b)

os yw’n gontract safonol cyfnodol sy’n cymryd lle contract arall (gweler paragraff 32)—

(i)

sy’n codi o dan adran 184(2), neu

(ii)

sydd o fewn adran 184(6),

a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol, neu

(c)

os yw’n gontract sicr a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol.