ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

F113B.

Nid yw adran 123 (amrywio’r rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n gontract safonol cyfnodol F2y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat ac a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)

yn denantiaeth sicr ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, a

(b)

yn cynnwys teler a oedd yn gwneud darpariaeth ynghylch amrywio’r rhent o dan y denantiaeth neu’r drwydded.