ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
13
(1)
Mae adran 39(1) (gwybodaeth am gyfeiriad y landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi F1, heblaw am gontract sy’n cymryd lle contract arall, fel pe bai “y cyfnod darparu gwybodaeth (o fewn ystyr Atodlen 12)” yn cael ei roi yn lle “y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract”.
(2)
Mae adran 40(2) (tâl digolledu) yn gymwys mewn perthynas ag adran 39(1), fel y’i diwygir gan is-baragraff (1), fel pe bai’r cyfeiriad at y dyddiad perthnasol yn gyfeiriad at ddiwrnod cyntaf y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dod i ben â diwrnod olaf y cyfnod darparu gwybodaeth (ac yn unol â hynny mae adran 40 i’w darllen fel pe bai is-adran (5) wedi ei hepgor).