ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
F112A
F2... Mae Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, o dan adran 186, ac o dan gymal terfynu’r landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi F3, heblaw am gontract sy’n cymryd lle contract arall, fel pe bai—
(a)
paragraff 1 wedi ei hepgor, a
(b)
y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 2—
“Methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod penodedig
2
Os—
(a)
yw’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, neu o dan adran 31(2) F4..., a
(b)
yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 11(1) neu adran 31(2),
ni chaiff y landlord roi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract.”