xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12LL+CTROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaethLL+C

[F112AF2... Mae Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, o dan adran 186, ac o dan gymal terfynu’r landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai—

(a)paragraff 1 wedi ei hepgor, a

(b)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 2—

Methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod penodedig

2Os—

(a)yw’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, neu o dan adran 31(2) (pan na fo wedi ei ddatgymhwyso gan baragraff 11(1A) o’r Atodlen honno), a

(b)yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 11(1) neu adran 31(2),

ni chaiff y landlord roi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract.]

Diwygiadau Testunol

F2Gair yn Atod. 12 para. 12A wedi ei hepgor (14.7.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 9

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 12A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2