xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
[F111A(1)Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth cyn 1 Mehefin 2023—LL+C
(a)mae adran 31(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”;
(b)mae adran 31(2) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”;
(c)mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”—
(i)adran 36(3)(a);
(ii)adran 37(3)(a);
(d)mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â dyddiad meddiannu’r contract”.
(2)Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth ar neu ar ôl 1 Mehefin 2023—
(a)mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriadau at y dyddiad meddiannu yn gyfeiriadau at y diwrnod y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall—
(i)adran 31(1);
(ii)adran 36(3)(a);
(iii)adran 37(3)(a);
(b)mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriad at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriad at y dyddiad y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 12 para. 11A wedi ei fewnosod (1.6.2023) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2023 (O.S. 2023/556), rhlau. 1, 5